Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mehefin 2012
Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
ar gyfer y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio
1. Ar 19 Mehefin 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd er mwyn iddo ystyried y darpariaethau perthnasol ac adrodd yn ôl arnynt.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd adrodd yn ôl i’r Cynulliad erbyn 27 Gorffennaf 2012.